Gwybodaeth Syllwr

Syllwr Casgliadau'r Llyfrgell


Beth yw'r Syllwr Casgliadau?

Mae'r Llyfrgell yn defnyddio'r Universal Viewer ar gyfer arddangos eitemau digidol sydd wedi amlyncu, ar draws ein holl wefannau.

Esiamplau:


Sut mae embedio'r Syllwr?

Brif wefan (TYPO3)

Am fwy o wybodaeth sut mae gosod y syllwr ar brif wefan y Llyfrgell, cysylltwch gyda mynediad.digidol@llyfrgell.cymru

Blog y Llyfrgell (Wordpress)

Gallwch defnyddio'r cod mewnosod o'r syllwr i greu darn o god er mwyn mewnosod i erthygl ar y blog. Cliciwch ar y symbol 'Rhannu' a dewis 'Ymgorffori' er mwyn dewis maint, ac yna copio'r cod.


Beth sydd ar gael i rhoi help llaw?

Profi PID

Ddim yn siwr os bod PID yn bodoli neu os bod manifest wedi amlyncu? Gallwch profi drwy mewnosod y PID a gweld sut bydde y manifest yn edrych o fewn y Syllwr.

Creu Delwedd IIIF

Gallwch creu a lawrlwytho delwedd IIIF o wahanol meintiau o manifest penodol drwy mewnosod PID.

IIIF Crop Tool (allanol)

Mae'r IIIF Crop Tool yn caniatáu ichi mewnosod URL delwedd IIIF a chael yr URL ar gyfer yr adran o'r ddelwedd sydd wedi'i cropio. Defnyddiwch y ffurf https://damsssl.llgc.org.uk/iiif/2.0/image/PID/full/,1200/0/default.jpg

IIIF Image Manipulation Tool (allanol)

Mae'r IIIF Image Manipulation Tool yn gallu cropio ac ail-meintio delweddau i'w lawrlwytho neu cynhyrchu dolen.
Bydd angen newid yr 'imageID' yn y URL i adlewyrchu'r ddelwedd i'w newid ee https://jbhoward-dublin.github.io/IIIF-imageManipulation/index.html?imageID=https://damsssl.llgc.org.uk/iiif/2.0/image/PID NODWCH bod angen defnyddio'r 'child' ID ar gyfer y ddelwedd os mewn casgliad.